Nid oes pall ar y Bwcabus chwyldroadol
Mae Bwcabus yn chwyldroi cludiant cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
Mae’r gwasanaeth bws estyn allan yn rhagori ar ei holl ddisgwyliadau gan iddo gludo ei 10,000fed
teithiwr dri mis cyn y disgwyl.
Lansiwyd Bwcabus yn Awst 2009. Gwasanaeth bws lleol yn ôl y galw ydyw sydd wedi’i deilwra i ateb anghenion teithwyr pentrefi gwledig Dyffryn Teifi, gan eu cludo i drefi, pentrefi a bothau lleol ar hyd prif lwybr gwasanaeth bws 460 o Gaerfyrddin i Aberteifi.
Defnyddia Bwcabus y dechnoleg ddiweddaraf a ddatblygwyd gan Ganolfan Cludiant Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg, drwy archebu lle i deithwyr ar fysiau o’i ganolfan alwadau ddwyieithog a weithredir gan Traveline Cymru.
Dyfeisiad arbenigwr cludiant Cymru, yr Athro Stuart Cole ydy’r Bwcabus. Fe’i datblygwyd drwy bartneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol Caerfyrddin a Cheredigion, ac fe’i hariennir gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nod y prosiect ydy gwella mynediad i wasanaethau allweddol ar gyfer cymunedau gwledig, i fynd i’r afael â gostyngiad cyson mewn nawdd i wasanaethau gwledig ac i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus lleol mwy dichonadwy i ardaloedd sydd â darpariaeth bysiau cyfyngedig.
Roedd disgwyl i wasanaeth y Bwcabus gludo 9,299 o deithwyr y flwyddyn, ond mae eisoes wedi rhagori ar y nifer hwnnw gan gludo dros 10,000 o deithwyr yn ystod y 10 mis cyntaf, gan gynyddu’r defnydd o gludiant cyhoeddus yn yr ardal o fwy na 40%.
Yr ardaloedd lle ceir y nifer o archebion oddi yno ydy gogledd Castellnewydd Emlyn, Rhydlewis, Coed y Bryn a Brongest.
Dywedodd y Cyng. Haydn Jones, aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin dros yr amgylchedd a gwasanaethau cludiant: “Mae hwn yn newyddion anhygoel I Bwcabus. Mae cyrraedd 10,000 o deithwyr dau fis o flaen amser yn newyddion gwych i’r prosiect.
“Rwy’n hynod falch bod cynifer o gymunedau wedi defnyddio’r cysyniad teithio newydd. Petai’r gwasanaeth Bwcabus newydd ddim wedi ei gyflwyno, byddai nifer o bentrefi gwledig heb wasanaeth bws. Mae’n darparu datrysiad integredig i anghenion teithio pobl.
“Gan iddo brofi i fod yn gymaint o lwyddiant, mae trafodaethau eisoes wedi’u cynnal gyda’r Cynulliad i ddatblygu Bwcabus 2 a bydd gwaith ymchwil yn cael ei wneud dros yr haf i ganfod cyfleoedd i ehangu’r gwasanaeth.”
Dywedodd un o deithwyr mwyaf cyson Bwcabus, Mrs C. H. Jackson o Drecroes: “Mae’r Bwcabus yn darparu gwasanaeth rhagorol. Mae’n fy ngalluogi i gael mynediad i wasanaethau allweddol. O’r blaen, roeddwn i’n gorfod cerdded bron i dair milltir bob ffordd i gyrraedd y dref agosaf. Erbyn hyn, mae gen i ryddid i fynd a dod fel rwy’n mynnu, ac rwy’n mwynhau gwell safon o fyw.”
Ffynhonnell: Kelly Philips, Cyd-lynydd Prosiect Bwcabus





