cartref > newyddion

Teithiau Cerdded a Rhyfeddodau Cudd ym Mharc Coedwig Afan

24 MEHEFIN 2010

Cyflwyno’r bws fel ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd a ffordd ddiffwdan o deithio i ac o amgylch Parc Coedwig Afan.

Mae bysiau’n rhedeg bob awr ar ddyddiadau’r wythnos o Gastell-nedd, Port Talbot (gyda chysylltiadau da ag Abertawe) i holl rannau’r Parc; a’r mwyafrif o oriau o Gastell-nedd (gyda chysylltiadau da ag Abertawe) ar ddyddiau Sul. Mae tocynnau diwrnod ar gael o Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot am brisiau deniadol.

Ceir hefyd gyfleuster tocynnau newydd ym mhrif orsafoedd rheilffordd De Cymru ar gyfer y tocynnau hynny sy’n rhan o Barc Coedwig Afan drwy orsaf Port Talbot. Ei enw ydy ‘Port Talbot Plus Bus’. 

Bydd BayTrans yn lansio taflen newydd yr wythnos nesaf i hyrwyddo’r cysylltiadau hyn, a gellir eu gweld yma.

Ffynhonnell: John Davies, Swyddog Prosiect BayTrans