Ymgyrch ‘Newid dy Fyd’ Sustrans yn cyfri’r milltiroedd
Y mae ymgyrch flynyddol Sustrans, ‘Newid dy Fyd’ wedi derbyn miloedd o addewidion o deithiau sydd wedi cyrraedd 82,000 milltir hyd yma!
Mae’r ymgyrch yn eich gwahodd i addo siwrnai ar droed, feic neu gludiant cyhoeddus er mwyn eu cynorthwyo i gasglu digon o filltiroedd i gwblhau taith rithwir o amgylch y byd.
Y mae’r 82,000 milltir a gasglwyd eisoes yn cynrychioli tair cylchdaith o amgylch y byd! Fodd bynnag, gyda’r ymgyrch yn rhedeg hyd at hanner nos ar ddydd Sul, 4ydd Gorffennaf, mae Sustrans yn gobeithio adeiladu ar hyn er mwyn cwblhau pedwerydd cylchdaith anferthol o amgylch y byd cyn y dyddiad hwn!
Drwy addo taith ar-lein, bydd gennych gyfle i ennill gwyliau gwych yn Center Parcs! Ymwelwch â www.changeyourworld.org.uk am fanylion pellach.





