cartref > newyddion

Datgelu Ystadegau Swyddogol Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr

29 MEHEFIN 2010

Mae Passenger Focus wedi cyhoeddi Ystadegau Swyddogol ar fodlonrwydd teithwyr gyda theithio ar drenau o’i Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr ar gyfer y gwanwyn 2010.

• Yn genedlaethol, roedd 83% o deithwyr yn fodlon â’u siwrnai yn gyffredinol. Mae hyn yn gynnydd sylweddol (+2%) o’i gymharu â Gwanwyn 2009 (pan mai 81% o deithwyr a oedd yn fodlon). Roedd 83% o deithwyr yn fodlon â’u siwrnai yn gyffredinol yn Hydref 2009.

• Ar lefel genedlaethol, 82% oedd y canran a oedd yn fodlon â phrydlondeb/dibynadwyedd. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â Gwanwyn 2009 pan mai 80% oedd yn fodlon.

• Roedd y canran o deithwyr a oedd yn fodlon â’r mwyafrif o ffactorau trenau a gorsafoedd ar lefel genedlaethol yn uwch yn gyffredinol neu heb newid o’i gymharu â Gwanwyn 2009. Gwelwyd gwelliant yn y bodlonrwydd â 14 ardal gwasanaeth (nid oedd newid yn y gweddill, oni bai am un dirywiad).

• 48% oedd y canran o deithwyr a oedd yn fodlon â gwerth am arian am brisiau eu tocynnau yn genedlaethol. Roedd hyn yn sylweddol uwch o’i gymharu â Gwanwyn 2009, pan mai 40% o deithwyr oedd yn fodlon. Gwelwyd cynnydd eto ym modlonrwydd teithwyr gyda faint o ofod sydd ar gyfer pob teithiwr i eistedd/sefyll (2% yn uwch) i 68% (66% yng Ngwanwyn 2009).

• Ar gyfer gweithredwyr Llundain a’r De Ddwyrain, nododd 82% o deithwyr eu bod yn gymharol fodlon yn gyffredinol, sydd eto’n uwch o’i gymharu â Gwanwyn 2009 (pan oedd yn 80%). Roedd y canran o deithwyr a oedd yn fodlon â’r mwyafrif o ffactorau trenau a gorsafoedd yn uwch yn gyffredinol neu heb fod llawer gwahanol o’u cymharu â Gwanwyn 2009. Cafwyd gwelliant ar gyfer 14 ffactor (gydag un dirywiad).

• Ar gyfer gweithredwyr pellter hir, 87% oedd y canran o deithwyr a oedd yn weddol fodlon neu’n fodlon iawn (2% o gynnydd o’i gymharu â Gwanwyn 2009 pan oedd yn 85%). Nid oedd llawer o newid ym modlonrwydd teithwyr gyda gwahanol ffactorau trenau a gorsafoedd o’i gymharu â Gwanwyn 2009, ond gwelwyd cynnydd gydag wyth ffactor. Ni ddirywiodd bodlonrwydd ar gyfer unrhyw ffactor.

• Ar gyfer gweithredwyr rhanbarthol, roedd 88% o deithwyr yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon gyda’u teithiau yn gyffredinol, ac nid oedd hyn yn wahanol iawn o’i gymharu â Gwanwyn 2009. Roedd 86% yn fodlon yn gyffredinol yng Ngwanwyn 2009. 88% yw’r canran uchaf a gofnodwyd erioed.  Ni welwyd newid ym modlonrwydd teithwyr yn y mwyafrif o ardaloedd gwasanaeth o’i gymharu â Gwanwyn 2009, ond gwelwyd cynnydd mewn bodlonrwydd ar gyfer pum ffactor a dirywiad mewn un.

• O gymharu canrannau teithwyr a oedd yn fodlon â chwmnïau gweithredu trenau unigol (TOCs) â Gwanwyn 2009, gwelwyd cynnydd sylweddol gyda phump ohonynt (East Midlands Trains, London Midland, Southeastern, Southern a Threnau Virgin), ac nid oes yr un wedi dirywio’n sylweddol. Nid oes llawer o newid i 16 TOCs yn eu canlyniadau yn gyffredinol o’u cymharu â Gwanwyn 2009. Ymunodd dau TOC newydd â’r arolwg am y tro cyntaf yn Hydref 2009. 

• Rhoddwyd y cyfraddiadau isaf am fodlonrwydd cyffredinol i London Overground (72%), First Capital Connect (76%), National Express East Anglia (77%), Southeastern (81%) a Northern Rail (83%). 

• Cyflawnwyd y cyfraddau uchaf o fodlonrwydd yn gyffredinol gan Wrexham & Shropshire (99%), Grand Central (94%), Merseyrail (93%), Heathrow Express (93%), c2c (91%) a Chiltern Railways (91%).

Nodiadau
 
1. Ceir canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr, Passenger Focus yn http://www.passengerfocus.org.uk/
- Arolygwyd dros 31,000 o deithwyr ar gyfer Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr yng Ngwanwyn 2010. Cynhelir dwy ran iddi yn flynyddol (gwanwyn a’r hydref).
- Mae Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr yn darparu darlun traws-rwydweithiol o fodlonrwydd teithwyr â theithio ar reilffyrdd. Cesglir barn pobl am wasanaethau trenau ddwywaith y flwyddyn gan sampl cynrychioladol o siwrneiau teithwyr.
- Gellir felly, cymharu bodlonrwydd teithwyr yn gyffredinol a’u bodlonrwydd â 30 agwedd penodol o wasanaeth dros amser.
- Y mae cyfraddau ar gael ar gyfer pob Cwmni Gweithredu Trenau unigol, yn ogystal â chyfraddau pob sector, e.e. Llundain a’r De Ddwyrain, gweithredwyr rhanbarthol a phellteroedd hir.
- Cynhaliwyd arolwg gwanwyn 2010 rhwng 24 Ionawr a 28 Mawrth 2010.

2. Passenger Focus ydy’r gwarchodwr defnyddwyr cenedlaethol annibynnol ar gyfer teithwyr trenau Prydain a theithwyr bysiau a choetsis yn Lloegr. Ein nod ydy cael y ddêl orau i deithwyr Prydain. Crëwyd gan Ddeddf y Rheilffyrdd 2005, a Passenger Focus ydy enw gweithredol Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd. Corff cyhoeddus anadrannol ydyw a gaiff ei noddi gan yr Adran Drafnidiaeth. 

Am fanylion pellach yngl?n ag Arolwg Cenedlaethol y Teithwyr, ffoniwch 0300 123 0837 neu e-bostiwch: david.greeno@passengerfocus.org.uk

Ffynhonnell: Krista Hamblin, Passenger Focus 22 Mehefin 2010