cartref > newyddion

GWASANAETHAU BWS NEWYDD YN RHAD IAWN I CHI!

30 MEHEFIN 2010

Mae Bysiau Arriva Cymru yn newid ei wasanaethau yn Aberystwyth o ddydd Llun, 28 Mehefin ymlaen gan greu 6 taith syml gyda thri phris syml.

Mae’r cwmni bws, sydd â’i orsaf yng Nghoedlan y Parc yn Aberystwyth, wedi rhifo ei wasanaethau newydd o un i chwech. Mae’r gwasanaethau’n rhedeg o orsaf y dref, o amgylch canol y dref ac i gyrchfannau gan gynnwys y Borth, Ynyslas, Penrhyn-coch a Pharciau Gwyliau Bae Clarach.

Mae prisiau hefyd yn cael eu symleiddio fel bod cwsmeriaid ond yn talu £1 am docyn sengl o fewn Parth Canol Tref Aberystwyth (sy’n cynnwys gwasanaethau 1, 2 a 3) neu £2 yn unig os ydynt yn teithio ymhellach ar wasanaethau 4, 5 a 6. Mae teithio’n rhad ac am ddim i bobl dros 60 oed sydd â thocyn ‘Cerdyn Cymru’.

Mae pobl Aberystwyth yn cael eu gwahodd i ganfod mwy am y llwybrau newydd hyn yn ystod digwyddiad yng ngorsaf fysiau Aberystwyth yng nghanol y dref, rhwng 10yb a 2yp ar ddydd Iau, 1af Gorffennaf.

Dywedodd Nick Gordon, Rheolwr Marchnata Bysiau Arriva Cymru: “Dydd Iau, byddwn yn hysbysu cwsmeriaid yngl?n â’n llwybrau newydd, a fydd, yn ein tyb ni, yn ei gwneud hi’n haws i deithio o amgylch Aberystwyth a’r cyffiniau. Byddwn yn gwahodd pobl i ymuno â ni i rolio ein dis anferth arbennig, ac os ydynt yn ddigon lwcus i rolio’r un rhif â’r llwybr bws sydd agosaf at eu cyfeiriad cartref, byddant yn ennill teithiau bws rhad ac am ddim.

“Nid yn unig rydym yn gostwng prisiau rhai o’n tocynnau, ond rydym hefyd yn ei gwneud hi’n haws i’n cwsmeriaid sy’n talu oherwydd byddant ond yn gorfod canfod darnau pres £1 a £2 yn hytrach na llawer o bres mân. Byddwn yn barod iawn i ateb unrhyw gwestiynau ynglyn â’n prisiau newydd a’n gwasanaethau diwygiedig yn ein digwyddiad ddydd Iau.”

Mae’r llwybrau newydd (sy’n rhedeg yn ôl ac ymlaen rhwng cyrchfannau) yn disodli llwybrau canol y dref presennol 501, 502, 504 a 510, ac maent fel a ganlyn:

Gwasanaeth 1 – Gorsaf Aberystwyth, Y Brifysgol, Waun Fawr, Llanbadarn, Coleg Ceredigion, Morrisons
Gwasanaeth 2 – Gorsaf Aberystwyth, Coedlan y Parc, Cynulliad Cymru, Morrisons, Ty’n-y-fron, Penparcau, Gorsaf Aberystwyth
Gwasanaeth 3 – Gorsaf Aberystwyth, Penparcau, Ty’n-y-fron, Morrisons, Cynulliad Cymru, Coedlan y Parc, Rhodfa’r Môr, Gorsaf Aberystwyth
Gwasanaeth 4 – Gorsaf Aberystwyth, Y Brifysgol, Bow Street, Gorsaf y Borth, Ynyslas
Gwasanaeth 5 – Llety Porthor y Brifysgol, Gorsaf Aberystwyth, Coedlan y Parc, Cynulliad Cymru, Morrisons, Llanbadarn, Comins Coch, IBERS, Penrhyn-coch
Gwasanaeth 6 – Gorsaf Aberystwyth, Y Brifysgol, Bow Street, Parciau Gwyliau Bae Clarach 

Ceir gwybodaeth bellach yngl?n â’r gwasanaethau hyn.

Am wybodaeth bellach yngl?n â Bysiau Arriva Cymru, ewch i www.arrivabus.co.uk neu cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid ar 0844 8004411.

Ffynhonnell: Nick Gordon, Bws Arriva