cartref > newyddion

Bysiau Gwyr: Mynd o nerth i nerth

01 GORFFENNAF 2010

O ganol mis Gorffennaf ymlaen bydd sawl newid i wasanaethau bysiau Gwyr. Bydd gwasanaeth ar y Sul ar lwybr de Gwyr yn teithio’n amlach nag a fu ers nifer o flynyddoedd. Bydd Veolia yn rhedeg 6 bws y dydd (gwasanaeth 118) bob ffordd a First Cymru, 4 gwasanaeth y dydd bob ffordd (gwasanaeth X18). Gyda’r ddau yn teithio i ac o Abertawe, byddant yn gwasanaethu Parkmill, Oxwich, Scurlage, Port Einon a Rhosili ar bob taith.
 
Bydd gwasanaethau dyddiol (yn ystod y dydd) y ‘Gower Explorer’ yn parhau fel ag o’r blaen, gan gynnig gwasanaeth cynhwysfawr i ymwelwyr sydd am fynd i gerdded, i’r traeth ac i atyniadau eraill ledled G?yr. Gyda’i amserlen gyson a chysylltiadau llyfn, cysylltir â bron iawn bob rhan o’r penrhyn.
 
Mae’r tocyn ‘Day Explorer’ am £4.50, yr un pris ag yn 2008, yn berffaith ar gyfer teithiau i Abertawe. O fewn y Penrhyn, mae’r ‘Gower Coast Explorer’ yn fargen eithriadol am £2.80 yn unig. Ceir prisiau is i blant a chaiff teuluoedd o bedwar deithio am bris dau oedolyn ar y ddau docyn. 
 
Bydd First Cymru X18 yn gweithredu pedair taith y dydd rhwng Abertawe, Bae Oxwich, Port Einon a Rhosili ar ddyddiau Sadwrn, Sul a Llun, Gwyl y Banc. Bydd yn gwella amledd rhwng Port Einon a Rhosili yn fawr gan gynnig hyblygrwydd i gerddwyr sy’n cerdded un ffordd rhwng y ddau le.
 
Bydd gwasanaeth gyda’r hwyr Llandeilo Ferwallt a Phennard yn parhau gyda’r bws olaf yn dychwelyd o Bennard i Abertawe ar ôl 2300. Bydd gwasanaethau dydd 14 awr First Cymru yn parhau fel arfer.
 
Cysylltiad uniongyrchol i’r Mwmbwls ar ddyddiau Gwener. Mae BayTrans yn cynnig cefnogaeth ariannol i daith cylch rhwng Rhosili, Port Einon, Oxwich, Pennard a’r Mwmbwls ar ddyddiau Gwener rhwng 23 Gorffennaf a 3 Medi (cynhwysol). Bydd teithiau dyddiol addas o’r llefydd hyn yn bosibl ar gyfer diwrnod allan yn y Mwmbwls, a bydd tocynnau ‘Day Explorer’ yn ddilys ar y llwybr hwn. Gan alw ym Mhennard ar y ffordd, bydd yn berffaith i’r rhai hynny sy’n dymuno cerdded y daith ‘Three Cliffs Bay’ o gwmpas i Benmaen neu Parkmill. Bydd taflen ar gael yn fuan.
 
Bws hwyr yn ôl o dde Gwyr i Abertawe. Mae BayTrans hefyd yn cynnig cefnogaeth ariannol i fws hwyrach yn ôl o Rosili am 2035 i Port Einon, Horton, Reynoldston a Bae Oxwich; bydd yn gweithredu rhwng 19 Gorffennaf a 4 Medi, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae hyn yn cynnig dychweliad hwyr i Abertawe o bob pentref yn ne Gwyr. Bydd taflen ar gael yn fuan.
 
Gostyngiadau ar gael drwy gyflwyno tocynnau bws dilys ar gyfer yr un diwrnod:
Canolfan Treftadaeth G?yr: mynediad hanner pris
‘Perriswood Archery’: tair gwers saethyddiaeth am bris dwy
Canolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili: gostyngiadau o 10% ar anrhegion a llyfrau
Siop Goffi Three Cliffs: Gostyngiad o 10% ar fwyd a diod
 
Diolch a BayTrans i’r uchod am eu cynigion hael i deithwyr bws.
O.n. caiff dalwyr Tocynnau Consesiwn Cymreig deithio’n rhad ac am ddim ar holl wasanaethau’r Gwyr.
 
Am y manylion diweddaraf am fysiau’r G?yr, ewch i www.baytrans.org.uk  i gynllunio teithiau unigol, ewch i www.travelinecymru.info


Ffynhonnell: John Davies, Baytrans