cartref > newyddion

M-docynnu, tocynnau bws i’ch ffôn symudol

06 GORFFENNAF 2010

Mae M-docynnu neu ‘tocynnu symudol’ yn dechnoleg sydd ar gynnydd a allai drawsnewid cludiant cyhoeddus.

Mae eisoes yn cael ei ddefnyddio gan Fws Arriva, sy’n galluogi defnyddwyr bysiau i flaen-brynu tocynnau drwy eu ffonau symudol.

Mae defnyddwyr yn cofrestru ar-lein i dderbyn cais am docynnau, ac unwaith y bydd wedi’i lwytho i lawr, mae’n galluogi’r defnyddiwr i ddewis a phrynu eu tocyn.

Unwaith y bydd wedi’i actifadu, arddangosir y tocyn ar sgrîn ei ffôn symudol yn barod i’w ddangos i’r gyrrwr.

Mae manylion pellach yngl?n â sut y mae Bws Arriva yn defnyddio’r dechnoleg hon ar hyn o bryd i’w cael ar wefan Bws Arriva.