cartref > newyddion

Bysiau Ychwanegol ar gyfer Ymwelwyr â Gwyr

23 GORFFENNAF 2010

Wrth i Benrhyn Gwyr baratoi ar gyfer dylifiad o ymwelwyr dros yr haf, mae partneriaeth cludiant cynaliadwy, ‘BayTrans’, yn gweithredu i ddarparu dewis gwell o deithio drwy gynnig cefnogaeth ariannol i welliannau i wasanaethau bws allweddol.

I annog ymwelwyr i aros am gyfnod hwy yn ne Gwyr a theithio oddi yno heb unrhyw bryderon yfed a gyrru, bydd bws ychwanegol yn gadael Rhosili am 2035 yn ystod yr wythnos i Port Einon, Horton, Oxwich ac Abertawe. Ar ddyddiau Gwener, bydd gan ymwelwyr â de Gwyr fws uniongyrchol i’r Mwmbwls; a chan ymwelwyr y Mwmbwls ddau fws uniongyrchol i dde Gwyr.

Ychwanegodd John Davies, Swyddog Prosiect BayTrans: “mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein hyrwyddiad am fwy o deithio di-gar i ac o’r Gwyr, ac rydym yn ddiolchgar am y cyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Dinas a Sir Abertawe sy’n gwneud hyn yn bosibl”.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ar 19 Gorffennaf.

Ceir gwybodaeth bellach drwy gysylltu â 01792 205071 neu 07967 389329 neu drwy glicio ar y dolenni isod:

Gwasanaeth Rhosili 118 
Gwasanaeth y Mwmbwls, Gwyr 114

Nodiadau:
Bydd y gwasanaeth ychwanegol bob diwrnod gwaith o Dde Gwyr yn galluogi cyfleoedd teithio i a rhwng Rhosili, Port Einon, Horton, Reynoldston, Oxwich a Parkmill; ac i Abertawe. Bydd yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o’r 19 Gorffennaf hyd at y 4 Medi.

Bydd gan wasanaeth dyddiau Gwener dri llwybr taith rhwng y Mwmbwls, Pennard, Bae Oxwich, Port Einon a Rhosili, ac yn gweithredu o ddydd Gwener, 23 Gorffennaf hyd at y 3 Medi (cynhwysol).

Gweithredir y ddau wasanaeth gan Veolia Transport Cymru.