Bwcabus yn ennill Gwobr Genedlaethol
Daeth y prosiect i’r brig yng nghategori ‘Y Prosiect Cludiant Mwyaf Arloesol’ (a noddwyd gan Stagecoach), gan lwyddo yn erbyn cystadleuwyr cryf yn rhanbarthol a chenedlaethol, a oedd yn cynnwys:
o Highways Agency - M42 Junction 5 Southbound Through Junction Running Project
o First Transpennine Express - Driving Fuel Efficiency
o Road Safety Foundation - GB EuroRAP Risk Mapping and Performance Tracking 2009
o Bournemouth Borough Council- Bournemouth Camera Car
o Southeastern - Previewing High Speed
o London Underground - Computerised Track Access Control
o JMP on behalf of Dundee City Council - Dundee Travel Active
o Chiltern Railways – Evergreen
o London Borough of Islington – Vouchers for Permits
Lansiwyd Bwcabus yn Awst 2009; gwasanaeth bws lleol yn ôl y galw ydyw sydd wedi’i deilwra i ateb anghenion teithwyr pentrefi gwledig Dyffryn Teifi, drwy eu cludo i drefi, pentrefi neu fothau lleol ar hyd prif lwybr y gwasanaeth bws 460 o Gaerfyrddin i Aberteifi. Mae teithwyr yn blaen-archebu bysiau llai i’r prif lwybr, ond gallant hefyd deithio o fewn ardal Bwcabus. Mae yna fwy i’r newyddbeth nag uwch-dechnoleg yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaeth, gan gynnwys cerbydau newydd sbon, cysylltiadau gwirioneddol a dewis gwell o amserau teithio.
Datblygwyd cysyniad y Bwcabus gan Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae datblygiad y prosiect hwn yn fodel o bartneriaeth lwyddiannus rhwng CYTC, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Traveline Cymru a gweithredwr bysiau preifat, Y Brodyr Richards.
Dywedodd yr Athro Stuart Cole, “Rwy’n hynod falch bod Bwcabus wedi ennill y wobr anrhydeddus hon a hynny yn erbyn cystadleuwyr o’r radd flaenaf ymysg cyd-weithwyr ym myd trafnidiaeth yn y DU. Deilliodd arloesiad radical Bwcabus o gwestiwn syml a ofynnwyd i Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru - sef, sut ydym yn darparu gwasanaeth bws o’r safon uchaf ar gyfer ardaloedd gwledig lle mae gwasanaethau yn dirywio? Roedd hynny bum mlynedd yn ôl.
Fe gymerodd amser i ddatblygu’r system soffistigedig ond gweithiodd yn dda o’r cychwyn, a bellach, mae bron yn flwydd oed (24 Awst) ac wedi cynyddu’r galw ar rwydwaith Bwcabus o 45%. Mae hyn, mewn cyfnod pan fo nawddogaeth wledig yn gostwng yn gyffredinol.
Mae Prifysgol Morgannwg wedi dangos sut y gall diwydiant, llywodraeth a’r byd academaidd gydweithio i ddatblygu a gweithredu syniadau radical, sy’n ddatrysiadau ymarferol. O gysyniad i ddatrysiadau ymarferol arloesol.”
Mae llwyddiant y prosiect yn golygu bod trafodaethau cynnar eisoes wedi digwydd gyda’r Cynulliad ynglyn â datblygu Bwcabus 2, ac mae ymchwil yn cael ei wneud dros yr haf i ganfod cyfleoedd ar gyfer ehangu’r gwasanaeth.
Arweinir prosiect Bwcabus gan Gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion, ac ariennir gan Gronfa Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.





