cartref > newyddion

Dathlu 15mlynedd o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

19 AWST 2010

Carnifal am ddim i'r teulu ar y tir tu allan i Gastell Caerffili ar Ddydd Sul 5 Medi, 1pm - 7pm.
 
Ymunwch â Sustrans ac Ymgyrch Calon ac Enaid y Cymoedd i ddathlu pen-blwydd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn 15 oed. Byddwch yn barod am ddiwrnod bythgofiadwy a fydd yn cynnwys yr adloniant gorau o bob rhan o'r Cymoedd a digonedd o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan.
 
Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, fe fydd rhywbeth i bawb ym Mharti Mawr Sustrans.
 
Cerddoriaeth ac adloniant byw yn cynnwys band Samba Caerffili; gorymdaith wedi ei hysbrydoli gan natur o amgylch y castell; sinema wedi'i phweru gan feiciau; sioe ffasiynau feiciau eco; gweithgareddau a hwyl ar gyfer plant bach; swyno mwydod; Fferm Gymunedol Greenmeadow; reidiau tywys o Gaerdydd a Phontypridd ..a llawer iawn mwy!
 
I gael rhagor o wybodaeth: www.sustrans.org.uk/bigsustransparty
Facebook: www.facebook.com/home.php?#!/event.php?eid=140271079345715&ref=mf

Source: Angela Spiteri, Sustrans