Traveline Cymru ar restr fer Gwobrau Canmol
Heddiw, datgelodd Sefydliad Siartredig Marchnata (15 Medi) ei restr fer ar gyfer Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru 2010, sy’n cynnwys 15 ymgyrch amrywiol gan sefydliadau a busnesau ledled Cymru.
Yn amrywio o gwmni aeddfedu caws sydd wedi ei drawsffurfio’n gwmni trampolinau yng Ngorllewin Cymru, i agoriad datblygiad adwerthu mwyaf 2009, fe ddyfarnwyd y cystadleuwyr a’u gosod ar restr fer gan 13 o arbenigwyr marchnata* o dan Gadeiryddiaeth Jonathan Deacon, Ysgol Fusnes Casnewydd a Chadeirydd Bwrdd Cymru'r Sefydliad.
Mae’r rhestr fer gref o 15 ymgeisydd yn cynnwys ymgyrchoedd cyffrous gan bum sefydliad o’r sector gyhoeddus, gan gynnwys Traveline Cymru, Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a GwirVol (Cyngor Cymru ar Weithredu Gwirfoddol).
Roedd cais Traveline Cymru yn seiliedig ar ail-frandio llwyddiannus y cwmni ac ail-ddatblygu gwefan, sydd eisoes wedi ennill gwobr fawreddog Gwobr Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Jo Foxhall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru: “Rydym wrth ein bodd i fod ar restr fer Gwobrau Canmol. Mae’n gydnabyddiaeth wych i brosiect y mae ein tîm yn Traveline Cymru a’n hasiantaeth gynllunio, limegreentangerine, wedi gweithio’n galed arno.”
Bydd pum enillydd terfynol, yn ogystal â dwy wobr unigol newydd ar gyfer 2010 sy’n cydnabod ‘Cyfraniad Neilltuol’ i Farchnata a ‘Marchnatwr Newydd’, yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty Parc Thistle, Caerdydd ar ddydd Iau, 7fed Hydref. Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Bethan Rhys Roberts o’r BBC, ynghyd ag adloniant gan y comedïwr Cymreig, Chris Corcoran.
A hithau yn ei thrydedd flwyddyn, mae Canmol a grëwyd yn 2008 gan Sefydliad Siartredig Marchnata i ddathlu a hyrwyddo rhagoriaeth o fewn y diwydiant marchnata yng Nghymru, yn dangos ymrwymiad i godi proffil a safon marchnata yng Nghymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yn wahanol i gynlluniau Gwobrau arferol sydd â chategorïau pendant sy’n ymdrin â sectorau penodol, mae Canmol yn unigryw, gan eu bod yn gweithredu heb gategorïau, terfynau na ffiniau. Mae meini prawf beirniadu yn seiliedig ar dystiolaeth o gynllunio, dosbarthiad/rhagoriaeth mewn gweithrediad, arloesiad ac effeithiolrwydd neu adenillion ar fuddsoddiad.
Dywedodd Jonathan Deacon, Cadeirydd y panel beirniadu: “Unwaith eto, roeddem yn llawn edmygedd o safon uchel ymgeiswyr Gwobrau Canmol, sydd ond yn dangos y lefel o dalent marchnata sydd gennym i’w ddathlu yng Nghymru.
“Roedd dewis ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer yn dasg anodd, fodd bynnag, roedd 15 cwmni yn amlygu eu hunain am eu creadigrwydd, arloesiad a meddwl strategol mewn marchnata, yn ogystal â’u gallu i gyflawni canlyniadau arbennig.”
Ychwanegodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Siartredig Marchnata: “Mae’r Sefydliad yn ymrwymedig i osod safonau a dathlu rhagoriaeth o fewn y diwydiant marchnata, a gobeithiwn y bydd y Gwobrau hyn yn cynorthwyo i ledaenu arfer da ymysg ymarferwyr yng Nghymru.”
Gellir prynu tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo o www.cim.co.uk/32509 neu drwy ffonio 01628 427340. Dewch o hyd i Canmol ar Facebook a dilynwch @Canmol ar Twitter am y newyddion diweddaraf.
Prif noddwr y digwyddiad yw Prifysgol Cymru, Casnewydd. Mae’r noddwyr eraill yn cynnwys: Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Equinox Communications, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Brand/68, Research & Marketing Plus, The CIM Charitable Trust a Genero Productions Ltd.





