I Ffwrdd  Ni Ar Dren Pypedau Cynta’r Byd!
Ar ddydd Sadwrn y 18fed o Fedi syfrdanwyd a boddhawyd teithwyr a Linell Arfordir y Cambrian gyda golygfeydd anghyffredin ar ei taith wrth iddynt deithio ar Drên Pypedau Cynta’r byd!
Ar y trenau rhwng Machynlleth a Phwllheli bu cymeriadau hoffus megis Chaz y mudan dymunol metalig, Lejo sioe bypetau o’r Almaen ac yn cynrychioli Cymru roedd y bythol boblogaidd Cwmni Cortyn yn diddanu’r teithwyr. Ar blatfformau’r gorsafoedd yn cwrdd a chyfarch teithwyr roedd Syr Lupin a’i daeogion truenus a fu hefyd yn ymweld â chastell Harlech ac yn marchogaeth yr asynod ar draeth Abermaw!

Syniad Clare Williams Cyfarwyddwr yr W?l, cyn Gyfarwyddwr Theatr Harlech sydd bellach yn Gyfarwyddwr Crochenni a’r Ffwrneisi, oedd trên pypedau cynta’r byd gyda’i bod yn mwynhau cynnal digwyddiadau i ddiddanu cynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau anghyffredin.
“Plannwyd y syniad yn fy mhen wrth deithio yn Ne America y llynedd” meddai Clare. “Ar y trên rhwng Acquacaliente a Cusco diddanwyd y teithwyr i sioe ffasiwn gan staff y rheilffordd – gydag eil y carej yn cael ei ddefnyddio fel pompren. Roedd yn daith hynod a diddorol thu hwnt”.
Meddyliodd Clare y byddai’n ffordd wych o atynnu cynulleidfa newydd i bypedwaith – roedd maint y pypetau yn berffaith ar gyfer mannau cyfyngedig. Roedd eisoes wedi datblygu perthynas dda gyda Trenau Arriva Cymru ar brosiect poblogaidd Carnifal Cambria a enillodd wobr genedlaethol.
“Rydym yn wir yn mwynhau gweithio gyda Theatr Harlech ar y prosiectau arloesol yma. Mae pypedau yn fythol boblogaidd gyda phobl o bob oedran ac mae’n wych ein bod yn medru cynnig atyniad ychwanegol i bobl lleol ac ymwelwyr tra bod yn teithio ar Linell Arfordir y Cambrian sydd wrth gwrs yn atyniad pwysig yn ei hun” dywedodd Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.
Yn ogystal â’r giamocs ar y trenau ac yn y gorsafoedd roedd y trên pypedau yn aros yn pedwar theatr ar y trywydd lle roedd teithwyr yn medru mynd oddi ar y trên i weld rhai o sioeau pypedau gorau Ewrop. Bu perfformiadau yn y Tabernacl (Machynlleth), Theatr y Ddraig (Abermaw), Theatr Harlech a Neuadd Dwyfor (Pwllheli) gan artistiaid o’r Iseldiroedd a’r Alban a wnaeth rhoi wir flas ryngwladol i’r digwyddiad.
Am ragor o wybodaeth ar Reilffyrdd y Cambrian ymwelwch â www.leinycambrian.co.uk
Source: Gerwyn Jones, Cambrian Railways Partnership





