cartref > newyddion

LAWNSIO TR?N AROS ARBED

22 TACHWEDD 2010

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) wedi uno gyda Thwristiaeth Canolbarth Cymru (TCC) i ddatblygu a hyrwyddo menter newydd ble mae darparwyr llety achrededig yn cynnig gostyngiad o 10% i ymwelwyr sy’n cyrraedd hwy ar y trên. 
 
Cafodd menter newydd TR?N AROS ARBED ei lawnsio yng Nghynhadledd Farchnata Mewn Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru a gynhaliwyd yn Y Plas, Machynlleth ar y 19eg o Dachwedd 2010.
 
Wrth lawnsio’r fenter dywedodd Val Hawkins ar ran TCC “Bydd darparwyr llety yn elwa o gyfle marchnata newydd sy’n rhad ac am ddim sydd â’r cyfle i gyrraedd nifer fawr o gwsmeriaid a chwsmeriaid dichonol a fydd hefyd yn cefnogi delwedd Canolbarth Cymru fel ardal dwristiaeth gynaliadwy. Tra fydd gostyngiad ar bris llety yn gwneud teithio ar y trên yn fwy atyniadol i ymwelwyr ac ymwelwyr dichonol”.
 
Cynhyrchwyd taflenni, posteri a chardiau post deiniadol sy’n cynnwys gwaith celf gan yr artist Neil S. Hopkins o Abersoch gan y PRC i hyrwyddo’r fenter a fydd yn cael ei dosbarthu’n helaeth. Mae’r deunydd yma yn cyfeirio at restr ar-lein a reolir gan TCC o’r darparwyr llety sy’n cymryd rhan a gellir ei weld yn www.visitmidwales.co.uk . Gan mai rhestr ar-lein ydyw, gellir ei ddiweddaru’n gyson.
 
Meddai Gerwyn Jones ar ran PRC “Rydym yn gweld hon fel esiampl arall o fenter rydym wedi ei ddatblygu yn lleol sydd yn hyrwyddo nid yn unig teithio ar y trên ond hefyd yr ardal yn gyffredinol a sydd yn cefnogi nifer o ddyheadau fel y nodir mewn sawl cynllun a strategaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae mentrau megis TR?N AROS ARBED hefyd yn cefnogi cynigion a hyrwyddiadau eraill megis un cyfredol Trenau Arriva Cymru ‘Club 55’”.
 
Yn dilyn ei lawnsio rhagwelir fydd y fenter yn datblygu ac yn cael ei hyrwyddo ar sail di-ben-draw a fydd yn sefydlu’r ardal fel un unigyw o ran twristiaeth cynaliadwy sydd yn flaenweithgar yn ysgogi teithio ar gludiant cyhoeddus ac yn fuddiol yn ei hun yn dod a chyfleon marchnata yn ei sgil.  Gyda bron at 30 o ddarparwyr llety eisioes wedi ymuno â’r scêm mae’n ymddangos fod yna gryn dipyn o gefnogaeth a brwdfrydedd am y fath yma o fenter.
 
Am ragor o wybodaeth am fenter TR?N AROS ARBED neu i drafod y scêm cysylltwch â Gerwyn Jones ar 07920 592363 gerwyn.jones@arrivatw.co.uk neu Val Hawkins ar 01654 702652 valh@midwalestourism.co.uk
 
Mae menter TR?N AROS ARBED wedi elwa o gefnogaeth a ddarperir gan Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru a gan Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy scêm a weinyddir gan Gymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (ACoRP.)

Am fwy o wybodaeth Train Stay Save leaflet