Gwasanaeth Bws Newydd X29
O ddydd Llun, 06 Rhagfyr 2010 ymlaen bydd cwmni Lloyds Coaches, Machynlleth yn cyflwyno gwasanaeth bws newydd fydd yn gweithredu rhwng Llanegryn, Tywyn a Machynlleth wedi ei rhifo X29.
Bydd y gwasanaeth newydd yn darparu gwasanaeth pob dwy awr drwy’r dydd (Llun i Sadwrn) gyda chysylltiadau strategol ym Machynlleth gyda gwasanaeth arall y cwmni, X28 y cafodd ei chyflwyno yn gynharach yn y flwyddyn sy’n gweithredu rhwng Machynlleth ac Aberystwyth/Morrisions Aberystwyth.
Dywedir llefarydd ar ran y cwmni :
“Rydym yn hynod falch i fod yn cyflwyno’r gwasanaeth yma drwy gydweithrediad a chefnogaeth Cyngor Gwynedd i gyflawni gwasanaeth cynaliadwy o ansawdd fydd yn rhoi’r cyfle i deithwyr deithio rhwng Lanegryn, Tywyn, Machynlleth ac Aberystwyth.
Mae’r cyflwyniad o’r gwasanaeth X29 mewn cysylltair a gwasanaeth X28 y’i cyflwynwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn darparu cysylltiadau cludiant pwysig i/o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ynghyd a chanolfannau addysg a bwyd a.y.y.b. Ni does colled i ymrwymiad tymor hir y cwmni i ansawdd gan y cyflogir bws newydd llawr isel hawdd mynd iddi ar y gwasanaeth newydd mewn siap bws 37 sedd, Enviro 200 sy’n cydymffurfio gyda’r amgylchedd sydd wedi ei darparu gan mr Richard Matthews o gwmni ADL. Mae gan y bws sustem cylch cyfun aml gamera gyda gwregysau diogelwch ar bob sedd ar gyfer diogelwch ein teithwyr ynghyd a sustem lleoliad byd-eang fydd yn chwarae rhan bwysig yn rhwymedigaeth y cwmni i ddarparu gwasanaethau prydlon a dibynadwy.

Ein nod felly yw darparu gwasanaeth arall o ansawdd i’n teithwyr ar bris rhesymol gan ein bod yn gwmni lleol sydd yn cael ein gyrru gan werthoedd hen ffasiwn.
Mae hyn yn gyfnod cyffrous unwaith yn rhagor i’n cwmni sydd yn dod a chyfleon gwaith i’r ardal yn ogystal â darparu gwasanaeth bws dibynadwy gan eich cwmni bws lleol”.
Gellir cael gwybodaeth pellach am y gwasanaeth drwy gysylltu gyda Lloyds Coaches ar 01654 702 100 neu drwy ymweld a gwefan y cwmni ar www.lloydscoaches.com a lawr lwytho copi o’r amserlen mewn ffurf pdf.
Source: Lloyds coaches, 6th December





