Ceflwaith Clyfar
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) wedi dadorchuddio celfwaith diweddaraf o’r cledrau, yr un yma gan yr artist o Abersoch Neil S. Hopkins, fel rhan o ymgyrch marchnata i hyrwyddo twristiaeth rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru.
Dangosir y celfwaith clyfar, a gomisynwyd i hyrwyddo menter TR?N AROS ARBED sy’n cynnig gostyngiad o 10% ar bris llety ar draws Canolbarth Cymru, ddelwedd o drên 158 Trenau Arriva Cymru yng ngorsaf Harlech gyda’r castell eiconig yn y cefndir.
Ar ran PRC, meddai Gerwyn Jones, “Gwnaethom ddewis Harlech fel lleoliad yr gwaith mwyaf diweddar yma gan fod yna gr?p gweithgar iawn, sef cangen lleol Sefydliad y Merched, sydd wedi mabwysiadu’r orsaf ac wedi ei drawsnewid gydag arddangosfa flodau a murluniau sy’n dangos delweddau a chwedlonau Cymreig. Roeddwn hefyd am gynnwys y castell gan ein bod wedi datblygu menter gyda CADW lle bod ymwelwyr ar y trên yn cael mynediad dau am un”.
Mae gan a mwyafrif o orsafoedd ar rhwydwaith y Cambrian criw o fobl lleol sy’n cymeryd rhan gweithgar yn gwella ei delwedd fel rhan o cynllyn mabwysiadu gorasafoedd Trenau Arriva Cymru.
Mae posteri a chardiau post sy’n dangos y celfwaith ar gael o orsafoedd a Chanolfannau Croeso lleol ar rwydwaith y Cambrian gyda’r arian a godir yn mynd tuag at achosion da lleol megis Ambiwlans Awyr Cymru, Y Groes Goch Brydeinig ac Apêl Arbed Cloc Machynlleth.
Dywedodd Cynghorydd Machynlleth Michael Williams, “Mae’r posteri a chardiau post wedi bod yn boblogaidd iawn yn ei hunain fel deunydd marchnata. Beth sydd yn galonogol iawn yw ei bod wedi codi swmiau sylweddol tuag at achosion da lleol sydd eto wedi atgyfnerthu’r berthynas rhwng y rheilffordd a’r cymunedau a wasaneithir ganddi”.
Mae peth o’r celfwaith a ddefnyddir o gasgliad y Cambrian yn cael ei gynnwys mewn llyfyr newydd, y trydydd yn y gyfres, gan yr awdur Richard Furness ‘Poster to Poster – Railway Journeys in Art’, sydd yn olrhain hanes a defnydd celfwaith mewn marchnata rheilffyrdd a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2011.





