cartref > newyddion

Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru- Holiadur i roi eich barn

11 CHWEFROR 2011

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru. Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar faterion trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Mae’r Pwyllgor hwn yn awyddus iawn i gael safbwyntiau pobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed. Mae’r Pwyllgor am wybod am drafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal chi.

Rhowch eich barn i ni gan ei bod yn bwysig iawn i ni wybod beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am drafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardal. Hoffem ni gael eich syniadau chi yngl?n â sut i wella trafnidiaeth gyhoeddus.

Holiadur i chi roi eich barn http://wales.gov.uk/topics/transport/public/ptuc/?skip=1&lang=cy

Holiadur rhoi barn pobl ifanc http://wales.gov.uk/topics/transport/public/ptuc/?skip=1&lang=cy

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Gwener 18 Chwefror 2011