cartref > newyddion

GWYNEB NEWYDD I BARNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIAN

28 CHWEFROR 2011

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi apwyntio Rhydian Mason fel eu swyddog datblygu.

Cychwynnodd Rhydian, sy'n 35 oed, ei swydd ar ddiwedd Ionawr, ac mae ganddo dros 14 mlynedd o brofiad ym meysydd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus wedi gweithio i amryw o sefydliadau adnabyddus gan gynnwys BBC Cymru ac CFfI Cymru. Mae'n edrych ymlaen i'r her o hyrwyddo a datblygu mentrau ar gyfer cledrau'r Cambrian, sy'n rhedeg o'r Amwythig i Aberystwyth a Pwllheli.

“Mae gennai brofiad o weithio ar ystod eang o feysydd o dwristiaeth bwyd i effeithlonrwydd ynni, ac mae fy rôl newydd yn cynnig her lle rwy'n gobeithio datblygu ffyrdd newydd o hyrwyddo rheilffyrdd y Cambrian ac hefyd o gyflwyno cyfleoedd i'r rhai hynny sy'n byw ac yn gweithio ar hyd y cledrau – naill ai drwy ddatblygu mentrau cymunedol, neu drwy godi ymwybyddiaeth o'r atyniadau a'r busnesau sydd wedi codi ger y gorsafoedd niferus ar hyd y cledrau.

“Rwy' hefyd yn bwriadu edrych ar ffyrdd o gynyddu'r nifer sy'n 'cymryd y Cambrian' yn hytrach na'r car – 'da ni'n byw mewn ardal wledig ag iddi reilffordd dda yn teithio'n gyson drwyddi, felly mae cyfle i'w gwneud hi'n haws i bobl i ystyried defnyddio'r trên fel modd o gyrraedd y gwaith, i siopa, neu i fynd ar daith hamddenol i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd.”

Ar ran Trenau Arriva Cymru, dywedodd Ben Davies, Rheolwr Cyswllt Rhanddeiliaid ei fod yn falch o groesawi Rhydian i Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian;

“Mae Rhydian yn dod â blynyddoedd o brofiad ac rwy'n si?r y bydd e'n ased i'r bartneriaeth. Mae llinellau'r Cambrian yn un o'm gwasanaethau allweddol yng Nghymru ac mae Trenau Arriva Cymru'n ymroddedig i wneud ymdrechion i sicrhau fod ein gwasanaethau'n eistedd yn gyffyrddus gyda'r cymunedau a'r mentrau sy' wedi eu lleoli ar hyd y cledrau.”

Dywedodd y Cynghorydd Trevor Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Arfordirol y Cambrian ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda Rhydian i godi ymwybyddiaeth o fentrau ac ymgyrchoedd perthnasol:

“Mae'r Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn bodoli er lles yr holl gymunedau cyfagos, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Rhydian yn ystod y misoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Mansel Williams “Fel Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Llinell Aberystwyth i'r Amwythig, rwy'n estyn croeso cynnes i Rhydian fel y Swyddog Datblygu newydd. Mae'r llinell yma'n gyswllt pwysig iawn o Aberystwyth ac arfordir y canolbarth i'r Amwythig a thu hwnt, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa fuddion pellach gallwn ninnau ddatblygu ar y cyd gyda Rhydian."

Gallwch gael hyd i fanylion pellach am ymgyrchoedd (gan gynnwys Trên..Arbed..Aros) ar y safle we www.thecambrianline.co.uk, neu, gallwch gael hyd i fwy o wybodaeth drwy godi taflen mewn unrhyw un o'r gorsafoedd rheilffordd wedi'u staffio neu mewn canolfannau twristiaeth ar lein rheilffordd y Cambrian.

Nodyn i Olygyddion

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cael eu ariannu a'i gefnogi ar y cyd gan Drenau Arriva Cymru a chynghorau Gwynedd, Powys, Ceredigion a Sir Amwythig. Mae'r partneriaid yma'n gweithio gyda'u gilydd i adnabod ac i ymgymryd â gwelliannau i'r gwasanaethau a'r strwythur ar hyd cledrau'r Cambrian ac i weithio ar farchnata er mwyn datblygu cyfleoedd masnach i'r gwasanaeth.

Cysylltwch â Rhydian:

Rhydian Mason
Swyddog Datblygu'r Rheilffyrdd
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd y Doll 
Machynlleth
Powys SY20 8BL
e-mail: info@rhydianmason.co.uk
Ffôn: 07795 644412

Diwedd.