ARBED MWY NA’R AMGYLCHEDD GYDA HER TRAVELINE
Bydd Traveline Cymru yn lansio ei ymgyrch ddiweddaraf yn fuan iawn, sef Her Traveline. Fel rhan o’r ymgyrch newydd hon, bydd Traveline yn gofyn i bobl ledled Cymru i gynnig addewid i wneud newidiadau positif i’w harferion teithio cyfredol.
Ffocws Her Traveline fydd annog pobl i geisio gadael eu ceir gartref nawr ac yn y man. Bydd yr ymgyrch yn edrych nid yn unig ar y manteision amgylcheddol o ddewis ffyrdd eraill o deithio, ond hefyd yn edrych ar y lles i iechyd a’r posibiliadau o arbed amser ac arian.
Mae Traveline Cymru yn annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan yn yr her. Gwnewch addewid i ddal trên, neidio ar fws, i gerdded, beicio neu rannu car, hyd yn oed os yw hynny ond un diwrnod yr wythnos yn unig. Gall newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr, yn wir, pe bai modurwyr y DU yn derbyn lifft unwaith yr wythnos, byddai llygredd yn gostwng 10%, a thagfeydd traffig 20%.
Dywed Iolo Williams, Llysgennad Traveline Cymru hyn am yr ymgyrch: “Mae’n wych bod Traveline Cymru yn cymryd rôl mor flaengar yn annog pobl i deithio’n fwy cynaliadwy ar draws Cymru, a byddaf innau yn gwneud fy rhan drwy ddal trên gymaint â phosibl pan fyddaf yn teithio i Gaerdydd.”
Fe fydd hi’n anodd iawn methu’r ymgyrch, gyda hysbysebion radio ac allanol yng Ngogledd, Canolbarth a De Cymru, gan gynnwys yn holl Ganolfannau Teithio Cynaliadwy. Bydd Traveline hefyd yn hyrwyddo’r ymgyrch yn yr Eisteddfod, y Sioe Frenhinol a digwyddiadau eraill ledled Cymru.
Dywedodd Jo Foxhall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru: “Rydym yn llawn cyffro i weld yr effaith a gaiff yr ymgyrch hon ar draws Cymru. Mae’n gyfle gwych i bobl gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth mawr drwy rai newidiadau bychain.” Ynghyd â staff eraill Traveline Cymru, bydd Jo yn derbyn yr her ei hun ac yn teithio ar drên i’r gwaith bedair gwaith y mis.
Dilynwch hynt Jo ar wefan Traveline Cymru www.travelinecymru.info, lle gellwch chithau hefyd wneud eich addewid eich hun a chael cyfle i ennill iPad.





