Enwch Rwydwaith Seiclo Newydd Caerdydd!
Yn 2010 fe ofynnon ni i bobl Caerdydd roi gwybod i ni pa faterion oedd y mwyaf pwysig yn eu barn nhw o ran gwella seiclo yng Nghaerdydd.
Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gennym er mwyn nodi’r prif lwybrau seiclo i mewn i’r ddinas, ar ei thraws ac allan ohoni.
Rydym yn cynllunio creu rhwydwaith seiclo cyfan newydd ar gyfer y ddinas dros y 5 mlynedd neu fwy nesaf. Bydd hyn yn hwyluso seiclo o gwmpas hyd yn oed fwy.
Bydd 12 prif lwybr yn ffurfio’r rhwydwaith seiclo. Mae enw i 4 o’r teithiau hyn yn barod – Llwybrau Taf, Elái, Rhymni a’r Bae. Rydym eisiau i CHI:
A. enwi rhwydwaith seiclo newydd sbon i fynd gyda’n map a logo seiclo newydd
B. enwi’r 8 llwybr seiclo newydd
Efallai yr hoffech enwi’r llwybrau seiclo ar ôl anifeiliaid neu chwedlau Cymraeg? Neu rywbeth syml fel “y Rhwydwaith Sbeis” gyda llwybrau’n cael eu henwi ar ôl sbeisys fel Nytmeg neu Sinamon.
Cyhoeddir yr enwau buddugol yng Ngwyl Seiclo Caerdydd ym mis Mehefin 2011, a bydd yr enillydd yn cael tocyn £200 i’w wario ar feic neu nwyddau beic!
Gallwch gyflwyno’ch ymgais:
ar-lein yn http://kcmhub.co.uk/
e-bost i cycling@caerdydd.gov.uk
anfonwch atom i:
Cystadleuaeth Brandio Beic,
Polisi Trafnidiaeth, Ystafell 301,
Neuadd y Sir,
Glanfa’r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW
Pob lwc!





