cartref > newyddion

Ewch ati gyda’ch camera i gael cyfle i ennill gwobrau gwych

26 EBRILL 2011

Bydd Sustrans Cymru yn llawn cyffro yr haf hwn gan y bydd yn agor llwybrau cerdded a beicio di-draffig ac addas i’r teulu bendigedig ledled cymoedd De Cymru! I ddathlu hyn rydym yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth  ardderchog i blant ac oedolion.
 
I gael cyfle i ennill gwobrau gwych ewch allan ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymoedd De Cymru a chofnodi eich antur! Nid oes yn rhaid i chi fod yn ffotograffydd proffesiynol i gynnig, gadewch i’ch dychymyg grwydro! Gallwch dynnu lluniau pobl, golygfeydd, bywyd gwyllt, tirnodau hanesyddol, tro cyntaf eich plentyn ar feic heb sefydlogyddion... Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn eu tynnu ar y Rhwydwaith yn y Cymoedd.

Beth am gael hwyl fel teulu ar y Rhwydwaith y Pasg hwn? I gael ysbrydoliaeth am le i fynd, cliciwch yma

Caiff y cynigion a ddaw i’r rownd derfynol eu harddangos yng Ng?yl y Caws Mawr boblogaidd a gynhelir yng Nghastell Caerffili ar 30 a 31 Gorffennaf 2011 lle gall ymwelwyr bleidleisio dros eu ffefryn er mwyn penderfynu ar yr enillydd.

Os ydych chi’n credu bod y ddawn gennych ewch i:
www.sustrans.org.uk/sightscameraaction
Neu ffoniwch: 029 2065 0602 i gael rhagor o wybodaeth

Y dyddiad cau yw 26 Mehefin