cartref > newyddion

Beicio'r Bae

12 MAI 2011


Ymunwch â Sustrans a phartneriaid ar gyfer diwrnod allan llawn hwyl i’r teulu yn casglu Milltiroedd Awyr Iach ar eich beic i ddathlu Pont y Werin, sy’n cysylltu Caerdydd a’r Fro!

Taith feiciau addas i’r teulu ar hyd y Llwybr Bae Caerdydd godidog ac yna ffair wanwyn llawn hwyl yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, sydd newydd ei hadnewyddu.
Dydd Sul 22 Mai 2011, 11am – 4pm

Bydd y daith yn cychwyn am 11am yn yr Eglwys Norwyaidd ac yn dilyn y llwybr 10km, di-draffig yn bennaf, o amgylch y Bae. Gallwch hefyd gychwyn y daith wrth Bont y Werin (pont Connect2 Sustrans ym Marina Penarth) am 11.30.

Bydd y cylch llawn yn gorffen yn yr Eglwys, lle byddwn yn parhau â’r dathliadau yn y prynhawn gyda digonedd o weithgareddau gwych ac adloniant i ddifyrru’r plant gan roi cyfle i chi fwynhau cwpanaid o de haeddiannol a darn o gacen flasus!

Os ydych eisiau ymuno â ‘Beicio’r Bae’ cofrestrwch ymlaen llaw drwy anfon neges e-bost i bikethebay@sustrans.org.uk gydag enwau llawn pawb yn eich criw a’ch man cychwyn.

Newydd i feicio neu heb feic?

Os nad oes gennych feic ond yr hoffech gymryd rhan yn y daith, bydd yr elusen leol Pedal Power yn cynnig gwasanaeth llogi beiciau ar gyfer pob oed, gan ddod â’r beiciau i chi i’r Eglwys Norwyaidd.  Cysylltwch â Pedal Power i rag-archebu eich beic.

Dewis arall yw OYBike, sy’n cynnal cynllun llogi beiciau Caerdydd, sydd â gorsaf rhentu yng Nghanolfan D?r Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth:  www.sustrans.org.uk/bikethebay