Mae App iPhone Traveline Cymru ar ei Ffordd – ac yn Rhad ac am Ddim...
Bydd Traveline Cymru yn lansio app iPhone yn fuan iawn i’ch cynorthwyo i gael mynediad i’r wybodaeth teithio ddiweddaraf ar flaenau eich bysedd.
Caiff yr app dwyieithog ei lansio yn ddiweddarach yn yr haf a bydd ar gael i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim.
Mae Traveline Cymru eisoes yn darparu gwybodaeth bysiau trwy amryw o wasanaethau symudol, fodd bynnag, mae’r app newydd hwn yn darparu gwybodaeth fanylach, gan ymgorffori nodweddion allweddol o’n gwefan. Byddwch yn gallu cynllunio taith ar draws Cymru, gweld amserlenni bysiau a mapiau, neu wirio rhybuddion teithio am oediadau cyn cychwyn eich taith.
Bydd yr app newydd hwn yn ei gwneud hi’n haws fyth i deithwyr cyson a rhai sy’n mynd ar deithiau unigol i gael mynediad i wybodaeth teithio bwysig drwy wasgu botwm yn unig.
Cadwch lygad allan am ein app iPhone rhad ac am ddim – bydd ar gael yn fuan!





