cartref > newyddion

NEWIDIADAU I'R GWASANAETH PARCIO A THEITHIO O DDYDD LLUN 13EG MEHEFIN 2011 YMLAEN

10 MEHEFIN 2011

Ddydd Llun 13eg Mehefin bydd y gwasanaeth yn cael ei ail-lansio, ac er mwyn sicrhau’i fod yn gallu parhau yn y dyfodol, mae'r amserlen wedi cael ei newid a bydd bysiau bellach yn teithio bob 20 munud. Bydd y bws cyntaf yn gadael maes parcio Nant-y-ci am 0700 ac yn gadael yr arhosfan yn Heol Awst am 0710. Bydd y bws olaf yn gadael Nant-y-ci am 1840 ac yn gadael Heol Awst am 1850. Yn ogystal â theithiau bob 20 munud, bydd taith ychwanegol rhwng y maes parcio a chanol y dref am 0830 er mwyn cynnig gwasanaeth mwy cyfleus ar adeg prysuraf y bore.

Roedd teithwyr wedi nodi y byddent yn barod i dalu tâl rhesymol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau. Felly, bwriedir codi tâl bychan ar deithwyr i gyfrannu at gostau darparu'r gwasanaeth. Bydd modd parcio am ddim o hyd a bydd teithwyr yn talu am deithio ar y bws yn unig.

Rydym wedi sicrhau bod tocynnau mor rhad â phosibl er mwyn annog pobl i barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd oedolion yn talu £1 yr un yn unig am docyn dwyffordd undydd. Bydd pobl sydd â Cherdyn Teithio Rhatach Cymru yn gallu teithio am ddim trwy ddangos Cerdyn Teithio dilys.  Caiff plant (dan 16 oed) hefyd deithio am ddim yng nghwmni oedolyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567.