Traveline Cymru yn cyflwyno ap teithio newydd
Mae Traveline Cymru wedi lansio ei ychwanegiad diweddaraf i’w ystod o wasanaethau symudol, drwy gyflwyno ei ap rhad ac am ddim ar gyfer yr iPhone yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Bydd yr ap teithio dwyieithog, y cyntaf o’i fath i gael ei gynhyrchu yng Nghymru ac un o’r ychydig o
aps dwyieithog Cymreig sydd ar gael drwy iTunes, yn rhoi mynediad i deithwyr i’r wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus tra eu bod yn teithio.
Bydd yr ap yn galluogi pobl i gynllunio eu teithiau, canfod arosfannau bysiau a llwybrau bysiau gerllaw, lleoli safleoedd parcio a theithio, gweld rhybuddion teithio ac amhariadau rheolaidd, a chael mynediad i fanylion cyswllt cwmnïau bysiau a threnau.
Lansiwyd yr ap gan lysgennad Traveline Cymru, Iolo Williams, a oedd wrth law yn yr Eisteddfod i gynnig awgrymiadau ar sut i lawr lwytho a defnyddio’r ap.
Dywedodd Iolo: “Pan fyddwch chi allan ‘rydych chi angen gwybodaeth deithio wrth law fynychaf, felly mae’r ap hwn yn syniad gwych. Mae’n rhad ac am ddim i’w lawr lwytho ac yn hawdd i’w ddefnyddio, byddwn i yn sicr yn argymell pobl i’w lawr lwytho gan nad ydych chi’n gwybod pryd y bydd o ddefnydd i chi.
“Mae’r Eisteddfod yn enghraifft wych o hyn, gyda phobl yn dod i’r Maes o Gymru ben baladr. Gobeithio y bydd yr ap hwn yn helpu llawer o bobl i gyrraedd adref yn gyflym ac yn ddiogel
heno.”
Ar ddatblygu’r dechnoleg symudol hon, dywedodd Jo Foxhall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru: “Trwy gyfrwng ein hymchwil, gwelwyd bod mwy a mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau o ddyfeisiau symudol wrth deithio, a dangosodd adborth gan gwsmeriaid yr angen am ap iPhone. Felly rydym wrth ein boddau o fod yn gallu darparu rhywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i arferion teithio pobl.
“Mae’r holl wybodaeth sydd ar ein gwefan ar yr ap, mewn fformat syml a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy’n teithio. Mae yna aps teithio eraill ar gael, ond cyn belled ag y gwyddom, hwn yw’r unig un sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.”
Datblygwyd yr ap, sef yr ail o’i fath yn y DU, gan Trapeze Group Ltd.
Gellir lawr lwytho’r ap o Storfa Apple ac mae gwybodaeth bellach yngl?n â’r ap ar gael yn www.traveline-cymru.info, ac ar Facebook a Twitter.





