cartref > newyddion

Traveline Cymru yn cyflwyno Ap teithio newydd ar gyfer Android

16 TACHWEDD 2011

Mae Traveline Cymru wedi ychwanegu cynnig newydd sbon i’w ystod o wasanaethau symudol, drwy gyflwyno Ap rhad ac am ddim ar gyfer ffonau Android.

Android App Home PageMae’r Ap teithio dwyieithog yn ymuno â’r Ap llwyddiannus iawn ar gyfer yr iPhone a chyfres o wasanaethau symudol eraill sy’n cynnig mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus i deithwyr tra eu bod yn teithio. Dyma’r cyntaf o’i fath ar gyfer ffonau Android yng Nghymru ac yn un o’r Aps Cymraeg prin sydd ar gael.

Mae’r Ap yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth nag Aps traddodiadol rhad ac am ddim, sy’n galluogi pobl i gynllunio eu teithiau, canfod arosfannau a llwybrau bysiau gerllaw, lleoli safleoedd parcio a theithio, derbyn rhybuddion ac amhariadau teithio cyson a chael mynediad i fanylion cwmnïau bysiau a threnau. 

Bydd yr wybodaeth yma’n ddefnyddiol iawn i deithwyr yn ystod misoedd y gaeaf sy’n golygu y gallant osgoi aros mewn arosfannau oer a gwlyb a chanfod a yw eu teithiau wedi’u heffeithio o ganlyniad i’r tywydd gaeafol. 

Dywedodd Graham Walter, Rheolwr Cyffredinol Traveline Cymru hyn am y datblygiad diweddaraf: “Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig y cyfle i ddefnyddwyr Android i gael mynediad i wybodaeth Traveline o’u ffonau symudol. Mae’r gallu i ddarparu gwybodaeth wrth deithio yn allweddol i’n marchnad a thrwy ddarparu’r Ap yn rhad ac am ddim, mae’r gwerth am arian yr ydym yn ei gynnig i’r defnyddiwr ac i Lywodraeth Cymru, sy’n ariannu ein gwasanaethau, yn rhan hanfodol o’r hyn a wnawn.”

Mae Llysgennad Traveline Cymru, Iolo Williams, yn gefnogwr brwd o’r datblygiadau parhaus a wnaAndroid App Bus Stop Map Traveline yn eu hymgais i annog pobl Cymru i deithio’n fwy cynaliadwy. Dywedodd: “Wrth i chi deithio yr ydych chi wir angen gwybodaeth teithio ar flaen eich bysedd, felly mae’r Ap yma’n syniad gwych. Mae’n rhad ac am ddim i’w lawr lwytho ac yn hawdd i’w ddefnyddio, byddwn i yn sicr yn annog pobl i’w lawr lwytho gan nad ydych yn gwybod pryd y bydd o ddefnydd i chi.”

Datblygwyd yr Ap i’r Android, sef yr ail o’i fath yn y DU, gan Trapeze Group Ltd. 

Gellir lawr lwytho’r Ap o’r Android Market a cheir gwybodaeth bellach ar www.traveline-cymru.info neu dilynwch y masgot, Traveline Tim, ar Facebook a Twitter.