Myfyriwr o Lansawel yn ennill yr her werdd
Y mae myfyriwr o Lansawel wedi’i goroni’n enillydd cenedlaethol Her Traveline.
Dyfarnwyd y wobr, sef iPad newydd sbon, i Stephen Lodwig, myfyriwr yng Ngholeg Castell-Nedd Port Talbot, gan lysgennad Traveline Cymru, Iolo Williams, sydd wedi bod yn flaenweithgar yn hyrwyddo’r ymgyrch.
Lansiwyd Her Traveline ym mis Mawrth 2011, gyda’r nod o gael pobl i ddewis cludiant cyhoeddus yn hytrach na’u ceir, gan eu cynorthwyo i arbed arian wrth leihau eu hôl troed carbon hefyd.
Ymunodd Stephen â’r Her yn Ffair Glas Fyfyrwyr y Coleg ym mis Hydref ac y mae wedi cadw at ei addewid i deithio ar fws i’r coleg bob dydd.
Dywedodd Stephen: “Rydw i’n falch iawn fy mod wedi ennill yr iPad am gymryd rhan mewn her mor bositif. Mae gen i docyn bws ac rwy’n gwneud yn si?r fy mod yn ei ddefnyddio mor aml â phosib’ - bydd y daith 15 munud yn sicr o hedfan nawr fod gen i iPad i fy nifyrru.”
Ymwelodd tîm Traveline â nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Frenhinol a Ffeiriau Glas Fyfyrwyr i hysbysu pobl am Her Traveline ac i hyrwyddo Ap newydd, rhad ac am ddim Traveline Cymru.
Dywedodd Iolo: “Yn ystod y naw mis diwethaf, rydw i a thîm Traveline Cymru wedi bod yn teithio Cymru benbaladr i annog pobl i ymgymryd â’r her ac rydym yn falch iawn gyda’r canlyniadau. Y mae
mwy na 4,500 o bobl wedi cymryd rhan a gobeithio y bydd hyn yn gwneud argraff bositif ar ôl troed carbon y wlad.”
Dywedodd Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru: “Nod yr her oedd darbwyllo teithwyr yng Nghymru i wneud newidiadau bychain i’w teithiau dyddiol, a fydd yn ei dro, yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd, ffyrdd Cymru a’u pocedi. Rwy’n gobeithio ein bod wedi llwyddo i wneud i bobl feddwl yn ddwys am y ffyrdd y maent yn teithio.”
Ceir gwybodaeth bellach yngl?n â sut i fanteisio ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru ar www.traveline-cymru.info, Facebook a Twitter.





