cartref > newyddion

Gwasanaeth Cludiant Cymunedol Newydd i Gonwy

09 RHAGFYR 2011

Bydd gwasanaeth bws newydd a lansiwyd yn ddiweddar yn un o’r enghreifftiau cyntaf yng Ngogledd Cymru lle bydd gweithredwr cludiant cymunedol yn darparu gwasanaeth ar adegau penodol.

Bydd y bws, sy’n cael ei weithredu gan Gludiant Cymunedol Conwy a’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cynnal gwasanaethau 3 diwrnod yr wythnos rhwng Cyffordd Llandudno, Llanrwst, CCT BusBetws-y-Coed, Cerrigydrudion, Corwen a Dinbych, diolch i gymhorthdal.

Ers i Ddeddf Trafnidiaeth 2008 ddod i rym, mae gweithredwyr Cludiant Cymunedol wedi gallu gwasanaethu’r cyhoedd yn gyffredinol, ac nid grwpiau penodol yn unig, a’r cynllun hwn gyda Chludiant Cymunedol Conwy yw un o’r cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Glyn Jones, Cludiant Cymunedol Conwy, “Nod Cludiant Cymunedol Conwy yw darparu cludiant addas ar gyfer pobl a all gael anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaethau lleol. Trwy ddarparu’r llwybr hwn gyda chymhorthdal rydym yn diwallu’r amcanion hynny ac yn darparu gwasanaeth i’r gymuned wledig.” 
 
Dywedodd y Cyng Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae’r sefydliadau dan sylw wedi gweithio’n galed iawn i wireddu’r cynllun hwn a darparu gwasanaeth i’r gymuned.”

Mae’r cerbyd newydd, o’r enw ‘Bws Bro’, yn fws 16 sedd ‘Bluebird’ gyda llawr isel ar gyfer cael mynediad.

Noddir y digwyddiad lansio gan gerbydau ‘Bluebird’. Noddir y cerbyd gan Venue Cymru a Broceriaid Yswiriant Gott & Wynne.