cartref > gwybodaeth > Travel Safe

Teithio’n Ddiogel

Mae Traveline Cymru am i chi fod yn ddiogel a mwynhau’r ?yl a’r Flwyddyn Newydd i’r eithaf. Mae hyn yn golygu gwneud pethau syml, megis cynllunio’ch taith, osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun a gyrru’n gyfrifol.

Rydym wedi crynhoi ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau yngl?n â sut i deithio’n ddiogel y tymor hwn, wrth barhau i gael hwyl.

Yfed a Gyrru

Rydyn ni i gyd yn mwynhau ambell i ddiod fach adeg y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i’w hystyried ‘pan fyddwch yn yfed’, cliciwch yma.

Y dewis gorau yr adeg hon o’r flwyddyn yw defnyddio cludiant cyhoeddus, cerdded neu gymryd tacsi. Peidiwch Yfed a Gyrru.

Cludiant Cyhoeddus

Awgrymwn eich bod yn cynllunio’ch taith ar gludiant cyhoeddus cyn gadael y t?, trwy ein Cynlluniwr Taith neu lawr lwythwch amserlen bws.

Am wybodaeth am gludiant cyhoeddus ‘wrth deithio’, lawr lwythwch aps Traveline Cymru ar gyfer yr iPhone neu Android, cliciwch yma.

Gellwch hefyd ychwanegu rhif gwasanaeth Traveline.txt, 84268 i’ch ffôn a chanfod eich côd arhosfan bws unigryw o’n gwefan, cliciwch yma. Bydd hyn yn cynnig gwybodaeth am y 4 bws nesaf i alw yn yr arhosfan hwnnw.

Mae’r ymateb yn rhad ac am ddim ac er mwyn osgoi sefyll mewn arhosfan bws oer yn hwyr y nos, os nad oes bysiau ar gael, byddwn yn anfon rhif ffôn cwmni tacsi lleol atoch.

Cerdded

Os ydych yn dewis cerdded adref yn hwyr y nos neu ar ôl yfed alcohol, yna lawr lwythwch yr Ap ‘My Security’.

Mae gan yr Ap hwn bopeth y byddwch ei angen er mwyn cerdded adref yn ddiogel, gwiriwr ffrind i sicrhau bod eich ffrindiau wedi cyrraedd adref yn saff, goleuadau rhybudd, camera diogelwch a botwm brys.

Os ydych yn canfod bod eich cerddediad adref yn anos oherwydd goleuadau stryd annigonol neu os ydych yn gwybod bod angen gwell goleuadau ar stryd benodol neu drwsio llwybr troed, yna ymwelwch â gwefan Fix My Street.

Rhannu Car

Cofiwch, gellwch rannu car gyda ffrind neu gyd-weithiwr dros gyfnod y Nadolig. Mae llawer o fariau a thai bwyta bellach yn cynnig diodydd ysgafn yn rhad ac am ddim yn benodol ar gyfer gyrwyr, felly cofiwch ofyn!

Tacsi

Bydd y ‘Cynllun Tacsi Diogel’ yn rhedeg  unwaith eto ledled Cymru eleni. Menter sydd wedi’i chynllunio i sicrhau bod pobl yn cyrraedd adref yn saff ar ôl noson allan.

Bydd unrhyw un sydd angen tacsi yn gallu tecstio CAB i 83222 a bydd eu lleoliad yn cael ei ganfod drwy eu signal ffôn symudol. Yna, byddant yn derbyn neges gyda rhifau’r tri chwmni tacsi trwyddedig agosaf atynt.

Bydd gwasanaeth marsialu tacsis hefyd yn dychwelyd y tymor hwn i ganol trefi Cymru, i gadw llygad ar giwiau tacsis yng nghanol trefi ac i sicrhau bod tacsis wedi’u trwyddedu. Edrychwch am y marsialiaid hyn mewn lleoliadau tacsis mewn trefi lleol dros gyfnod yr ?yl, a gallwch ddarllen mwy amdanynt yma.

Sgwterwr (Scooterman)

Am rywbeth ychydig yn wahanol ac i’r rheiny sy’n dathlu partïon Nadolig yng Nghaerdydd.

Mae Sgwterwr (Scooterman) yn gynllun sy’n seiliedig ar ‘yfwch chi, fe yrrwn ni’, sy’n golygu bod sgwterwr (scooterman) yswiriedig yn cyrraedd ar sgwter sy’n plygu, yn barod i’ch gyrru adref yn eich car. Am fanylion pellach, gweler yma.

Y mae Traveline Cymru yn dymuno g?yl wych a diogel i chi.