cartref > busnes > Cynlluniau Trafaelio

Cynllunio Teithiau i Fusnesau, Sefydliadau a Datblygiadau newydd ar draws Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 5 Cydlynydd Cynllun Teithio ac 1 Swyddog Cynllun Teithio ar draws Cymru i’ch cefnogi ym mhob cam o’r broses o baratoi a gweithredu’r Cynllun Taith.
Mae’r tîm eisoes yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill, ac yn gweld enghreifftiau da iawn o newid mewn ymddygiad teithio.

Nid oes ots beth yw maint y sefydliad, mae’r tîm yn barod i’ch helpu a’ch cefnogi. Gallant oll ddarparu enghreifftiau o sefydliadau eraill sydd wedi gweld y buddion i’w sefydliadau ac i’w gweithwyr ers iddynt ddechrau gweithredu eu Cynlluniau Teithio.

Dyma rai o’r buddion y mae’r sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda’r tîm wedi eu profi:

  1. Lleihad yn y nifer o geir ag un teithiwr yn unig ynddynt i’r safle a llai o dagfeydd
  2. Gwelliant mewn trefniant rhannu ceir
  3. Gweithwyr mwy heini a bywiog
  4. Lefelau salwch is
  5. Graddfeydd athreuliad llai
  6. Mynediad gwell i’r safle
  7. Arbedion costau

Yn ogystal â hyn, gall Cynlluniau Teithio hefyd ddarparu tystiolaeth werthfawr i ennill Gwobrau a Safonau eraill, megis:

  1. Safon Iechyd Corfforaethol (mwy na 50 o staff)
  2. Gwobrau Iechyd gweithleoedd bychain (llai na 50 o staff)
  3. Buddsoddwyr mewn Pobl
  4. Draig Werdd/ISO140001
  5. BSI PAS500:2008

Cysylltiadau Defnyddiol

Y Safon Iechyd Gorfforaethol

Buddsoddwyr Mewn Pobl

Groundwork Cymru

Mae’r tîm yn gwella’r ‘Cynnig’ a ddarparir ganddynt YN RHAD AC AM DDIM yn gyson i bob sefydliad. Mae’r ddwy fenter newydd ganlynol bellach ar gael drwy Gymru gyfan.

Hyfforddiant Teithio Call

Mae’r pecyn hyfforddi dibynadwy hwn sydd wedi’i deilwra ar gael yn rhad ac am ddim i holl fusnesau a sefydliadau Cymru gyfan.
Trwy weithio gyda’i bartneriaid, Traveline Cymru, Sustrans a darparwyr lleol, mae’r Tîm Cynllun Taith Rhanbarthol yn darparu sesiynau hyfforddi i gr?p o unigolion, a fydd, wedi derbyn yr hyfforddiant, yn gweithredu fel pencampwyr  teithio cynaliadwy ar gyfer eu sefydliadau. Bydd y Pencampwyr hyn yn gweithredu fel pwyntiau cyswllt ar gyfer gweithwyr/myfyrwyr/ymwelwyr neu unrhyw un arall sydd angen gwneud dewisiadau teithio o fewn y sefydliad. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Gwobrau Cynllun Taith Cymru

Mae Gwobrau Cynllun Taith Cymru yn gynllun gwobrwyo a chydnabyddiaeth i ddathlu llwyddiannau sefydliadau arfer da. Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru yn dangos y ffordd yn eu hagweddau cynaliadwy tuag at deithio a chludiant o fewn eu sefydliad. Mae llawer yn gweld gweithredu Cynllun Taith fel rhan o’u cyfrifoldeb Corfforaethol Cymdeithasol. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda.

Am fanylion pellach, cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynllun Taith Rhanbarthol a fydd yn barod iawn i’ch helpu.

Cysylltiadau Cynllun Teithio Rhanbarthol:

SWWITCH

Jayne Cornelius 01792 637644 / 07796 275711  

Nicola Thomas  01792 637645 / 07796275691 

Mae Rhanbarth SWWITCH yn cwmpasu – Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

TraCC

Meleri Edwards  01970 633432 / 07843 575653 

Mae Rhabarth TraCC yn cwmpasu - Gwynedd (Meirionnydd), Ceredigion a Phowys.

Taith

Jessica Pritchard 01352 704544

Mae Rhanbarth Taith yn cwmpasu - Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Fôn, Wrecsam, Gwynedd (Arfon a Dwyfor).

SEWTA

Deborah Stux 01633 463434 / 07826 875790

Nicola Davies 01633 463367 / 07826 875791

Mae Rhanbarth SEWTA yn cwmpasu - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg.

Fforymau a Rhwydweithiau

Ceir nifer o fforymau a rhwydweithiau Cynllun Taith yng Nghymru y byddai gennych ddiddordeb yn eu mynychu, o bosibl, neu os nad oes un yn eich ardal, efallai yr hoffech gynnal un eich hun. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Cynllun Taith Ranbarthol am fanylion pellach, ac am wybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau eraill a gynigir.

Os oes gennych eich Fforwm neu Rwydwaith eich hun a byddech yn hoffi i’r Cydlynwyr Cynllun Taith Rhanbarthol fynychu, estynnwch wahoddiad i ni os gwelwch yn dda.

Pwy mae’r Cydlynwyr Cynllun Taith Rhanbarthol yn cydweithio â nhw eisoes?

Dyma rai yn unig o’r sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn gweithio gyda’r Cydlynwyr Cynllun Taith ac yn profi’r bendithion. Rydyn ni’n si?r y byddwch yn adnabod rhai ohonynt!

  1. Y GIC yng Nghymru
  2. DVLA
  3. Virgin Media
  4. Y Gofrestrfa Dir
  5. Airbus Broughton
  6. Colegau AU/AB a Phrifysgolion
  7. Canolfan Byd Gwaith
  8. Working Links
  9. Heddlu Dyfed PowysGr?p Admiral
  10. Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru
  11. Stadiwm Liberty
  12. Intellectual Property Office
  13. International Rectifier
  14. PHS Group
  15. Farmers Boy (part of Morrisons)

a llawer mwy...

Os ydych yn rhan o Rwydwaith Cymru Gyfan neu’n gweithio ledled Cymru, yna e-bostiwch Jayne Cornelius os gwelwch yn dda, a fydd yn gallu’ch cynorthwyo.