cartref > busnes > Gwasanaethau Busnes Traveline Cymru

Helo a chroeso i adran Gwasanaethau Busnes Traveline Cymru!

Yma, byddwn yn amlinellu ystod o wasanaethau busnes RHAD AC AM DDIM y gall Traveline Cymru eu cynnig i fusnesau a sefydliadau preifat a chyhoeddus ar draws Cymru. I ganfod mwy, darllenwch isod ac edrychwch ar ein llyfryn ar-lein.

Cynlluniwr Teithiau Sypyn
Mae’r Cynlluniwr Teithiau Sypyn yn system hunanwasanaeth, cyfan gwbl awtomatig, rhad ac am ddim - sy’n galluogi sefydliadau i greu swp o gynlluniau taith personol - ar gyfer gweithwyr, ymwelwyr, neu fyfyrwyr ac ati.

Dysgu mwy am y Cynlluniwr Teithiau Sypyn

Cynlluniwr Taith wedi’i addasu sydd ar gael i’w lawr lwytho
Mae’r cyfleuster hwn yn eich galluogi i gael fersiwn o’n cynlluniwr taith wedi’i addasu ar eich gwefan eich hun. Mae’r offeryn hwn yn rhad ac am ddim ac ar gael i’w lawr lwytho ar-lein.

Lawr lwythwch y Cynlluniwr Taith i’ch gwefan

Digwyddiadau a Gweithdai yn eich gweithle
Gallwn drefnu gweithdai cynllunio Teithiau Staff a/neu arddangosiadau ar sut i ddefnyddio’r ystod lawn o wasanaethau Traveline, gan gynnwys y Cynlluniwr Taith, tudalennau Amserlenni a gwasanaethau testun ffonau symudol a’r rhyngrwyd.

Gofynnwch am arddangosiad neu weithdy yn eich gweithle

Deunydd hyrwyddo
Gall Traveline Cymru ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i’w dosbarthu i’ch staff, myfyrwyr, ymwelwyr ac ati, i’w hannog i ystyried sut y maent yn teithio.
Mae gennym daflenni a phosteri dwyieithog, mygiau, beiros, cylchau allweddi ac ati, oll i sicrhau bod gan bobl rif ffôn a chyfeiriad gwe Traveline Cymru gyda nhw bob amser!

Gweld y deunydd hyrwyddo sydd ar gael

Gofynnwch am ddeunydd hyrwydd i’w harddangos/dosbarthu yn eich gweithle