Amodau a Thelerau Traveline Cymru
Cywirdeb Gwybodaeth a Chynnwys
Tra ein bod ni’n gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon, ar adegau, gellir gwneud camgymeriadau. Mewn achos o gamgymeriad, cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda ar web@travelinecymru.info er mwyn i ni allu ei gywiro.
Argaeledd y Wefan
Ni allwn warantu y bydd y wefan hon ar gael bob amser ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad yw ar gael.
Dolenni Allanol
Mae gwefan Traveline Cymru yn rhestru dolenni a chyfeiriadau i wefannau eraill a weithredir gan drydydd person. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y gwefannau hynny ac ni ellir ein dal yn gyfrifol am y cynnwys, argaeledd, cynnyrch, gwasanaethau neu unrhyw ddeunydd a ddarperir ganddynt neu sydd ar gael drwy’r gwefannau hyn.
Amserau Agor y Ganolfan Alwadau
Mae rhif ffôn Traveline Cymru - 0871 200 22 33 ar agor rhwng 7yb a 10yh yn ddyddiol, ac eithrio Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Calan a Dydd Calan – pan fyddwn yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig. Rydym yn cadw’r hawl i newid yr amserau hyn os oes angen, gan wneud pob ymdrech posibl i hysbysu’r cyhoedd drwy’r wefan hon.
Prisiau Traveline Cymru
Pris galwad ffôn i rif Traveline - 0871 200 22 33 yw 10c y funud, yn ogystal â 6ch o ffi cysylltu o linell dir BT. Gall rhwydweithiau eraill fod yn uwch a gall ffonau symudol fod cryn dipyn yn uwch.
Mae negeseuon testun i Bus Times trwy wasanaeth Testun yn costio’r un faint â neges destun arferol (gall hyn amrywio o un gweithredydd ffôn i un arall). Mae’r ymateb yn rhad ac am ddim i’r ymholwr, gan ei fod wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r wybodaeth sy’n gynwysedig yn y wefan hon yn rhad ac am ddim i ddefnyddiwr preifat. Os oes angen yr wybodaeth ar gwmni allanol, bydd yn rhaid gwneud cais i Traveline Cymru, ac ni all cwmni allanol godi tâl am y ddarpariaeth nac am y defnydd o ddata Traveline Cymru. Am ganiatâd i ddefnyddio’n data, cysylltwch â data@travelinecymru.info os gwelwch yn dda.
Datganiad Preifatrwydd
Pan fyddwch yn anfon e-bost at Traveline Cymru neu’n defnyddio’n ffurflen adborth ‘Cysylltwch â Ni’, bydd gofyn i chi ddarparu eich cyfeiriad e-bost. Bydd Traveline Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon yn unig i ymateb yn uniongyrchol i’ch sylwadau neu ymholiad, a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data y DU, ac ni fyddwn yn ei rannu â thrydydd person.
Wrth danysgrifio i gylchlythyr Traveline Cymru, byddwch yn derbyn diweddariadau ynglŷn â gwasanaethau Traveline Cymru o dro i dro. Byddwch yn cael cyfle hefyd i dynnu’ch enw oddi ar y rhestr bostio ar unrhyw adeg yr hoffech wneud hynny.



